Blas o Gymru yn Tymhorau Cymru. A Taste of Wales at Tymhorau Cymru 11am–4pm | Thursday 26th November
A Taste of Wales at Tymhorau Cymru
11am–4pm | Thursday 26th November
Join us for a festive day celebrating the very best of Welsh food and drink. Drop in, meet the passionate producers, and enjoy a range of tasters as you discover the flavours, stories and traditions that make Welsh produce so special.
Throughout the day, a series of short talks will offer a deeper insight into the journey from farm to fork. Hear directly from our producers about their craft and sustainable practices.
You’ll also have the opportunity to purchase, come and discover unique Welsh products and find something special for your Christmas table. From artisan cheeses and charcuterie to Welsh cider and more, shop local this Christmas and discover the passion and craftsmanship behind every product.
Programme of Producer Talks
12pm | Seaweed with Katie Hunter-Moon
Katie will share recipes from her new illustrated booklet and explore how she celebrates and co-creates with seaweed through her textile and silver work. A fascinating look at the connections between food, nature and creativity.
1pm | Cheese with Harriet of Ffynnon Wen
Join Harriet to discover life on her small dairy sheep farm at Ffynnon Wen, where she raises her flock sustainably using herbal leys and no artificial fertilisers.
Harriet will explore the importance of producing high-quality, grass-fed sheep’s milk and how the quality of the milk shapes the flavour and character of her cheeses. She’ll share insights into her journey into cheesemaking and the development of a new on-farm production facility.
2pm | Charcuterie with Moch Coch
What creates truly exceptional flavour? Discover the craft of charcuterie with a producer who does everything on their small farm, from raising pigs outdoors in small groups, where they can roam and forage, to building a dedicated drying room and mastering the art of salami making.
Hear how animal husbandry, time, care and craftsmanship come together to create distinctive, flavourful charcuterie.
3pm | Cider with Seidr Tydecho
Raise a glass to Welsh cider and discover the story behind Seidr Tydecho. Sam Robinson will share his cider-making journey, the practices behind his craft and the rich history of cider in Wales.
Explore the traditions, techniques and passion that continue to shape Welsh cider today.
Blas o Gymru yn Tymhorau Cymru
11yb–4yp | Dydd Iau 26 Tachwedd
Ymunwch â ni am ddiwrnod Nadoligaidd yn dathlu’r gorau oll o fwyd a diod Cymru. Galwch heibio i gwrdd â’r cynhyrchwyr brwd a blasu amrywiaeth o gynnyrch wrth ddarganfod y blasau, y straeon a’r traddodiadau sy’n gwneud cynnyrch Cymreig mor arbennig.
Drwy gydol y dydd, cynhelir cyfres o sgyrsiau byr i roi cipolwg dyfnach ar y daith o’r fferm i’r fforc. Cewch glywed yn uniongyrchol gan ein cynhyrchwyr am eu crefft a’u harferion cynaliadwy.
Bydd cyfle hefyd i brynu cynnyrch, darganfod amrywiaeth o gynnyrch Cymreig unigryw a dod o hyd i rywbeth arbennig ar gyfer eich bwrdd Nadolig. O gawsiau crefftus a charcuterie i seidr Cymreig a mwy, dewch i gefnogi cynhyrchwyr lleol y Nadolig hwn a darganfod y brwdfrydedd a’r grefft sydd wrth wraidd pob cynnyrch.
Rhaglen Sgyrsiau’r Cynhyrchwyr
12yp | Gwymon gyda Katie Hunter-Moon
Bydd Katie yn rhannu ryseitiau o’i llyfryn darluniadol newydd ac yn sôn am y ffyrdd y mae’n dathlu ac yn cyd-greu gyda gwymon drwy ei gwaith tecstilau ac arian. Cyfle hynod ddiddorol i archwilio’r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a chreadigrwydd.
1yp | Caws gyda Harriet o Ffynnon Wen
Ymunwch â Harriet i ddarganfod mwy am fywyd ar ei fferm ddefaid laeth fechan yn Ffynnon Wen, lle mae’n magu ei praidd mewn ffordd gynaliadwy, gan ddefnyddio cymysgeddau o weiriau a chodlysiau fel porthiant a heb ddefnyddio gwrteithiau artiffisial.
Bydd Harriet yn trafod pwysigrwydd cynhyrchu llaeth defaid o ansawdd uchel gan ddefaid sy’n pori ar laswellt, a sut mae ansawdd y llaeth yn dylanwadu ar flas a chymeriad ei chawsiau. Bydd hefyd yn rhannu ei phrofiadau o sefydlu ei busnes gwneud caws a datblygu cyfleuster cynhyrchu newydd ar y fferm.
2yp | Charcuterie gyda Moch Coch
Beth sy’n creu blas gwirioneddol eithriadol? Dewch i ddarganfod crefft charcuterie gyda chynhyrchydd sy’n gwneud popeth ar ei fferm fechan ei hun. O fagu grwpiau bach o foch yn yr awyr agored, lle gallent grwydro a chwilota am fwyd, i adeiladu ystafell bwrpasol ar gyfer aeddfedu a sychu, a meistroli’r grefft o wneud salami.
Cewch glywed sut mae gofal wrth fagu’r anifeiliaid, amser, sylw a chrefftwaith yn cyfuno i greu charcuterie unigryw sy’n llawn blas.
3yp | Seidr gyda Seidr Tydecho
Codwch wydr i seidr Cymreig a darganfod y stori y tu ôl i Seidr Tydecho. Bydd Sam Robinson yn rhannu ei daith ym myd gwneud seidr, yr arferion sy’n sail i’w grefft a hanes cyfoethog seidr yng Nghymru.
Dewch i archwilio’r traddodiadau, y technegau a’r brwdfrydedd sy’n parhau i lunio byd seidr Cymru heddiw.26th Nov Christmas tasters – Cheese, Cider And Meats from our membership – @ Gweithdy
Rhagor o wybodaeth yn fuan.
More information coming soon.
