Wythnos yma, fel rhan o’n hymgyrch Coeden Dyfi i’r Gadair, ’da ni’n cychwyn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar y cyd-destun ehangach y tu ôl i’n dodrefn. Cawn glywed hanes y bobl a’r lleoedd sy’n eu cynhyrchu.
Beth am ddechrau efo’r clawdd wnaeth gychwyn y cyfan, ac ymweld â fferm Fronwen?
Mae cloddiau’n rhan bwysig o unrhyw dir sy’n cael ei arddio neu ffermio. Maen nhw’n ffurfio ffiniau, yn cysgodi anifeiliaid a chnydau rhag y gwynt, ac yn gartref i ystod eang o fywyd gwyllt.
Weithiau gall glawdd bara canrifoedd, ond bydden nhw wastad yn teimlo traul amser a thywydd, felly beth sy’n digwydd pan mae angen ail-blannu? Ar ddydd Gwener gynnes a chymylog, es i ac Elen i gwrdd â Tudor Griffiths er mwyn dysgu mwy.
Ffordd braf o deithio ydy bownsio mewn trelar. Yn hongian dros yr ymyl efo’r gwynt yn ein hwynebau a’r bryniau o’n cwmpas, gawsom ni weld y byd o safbwynt ci defaid wrth i Tudor ein gyrru i’r Cae Mawr i weld y coetrych cafodd ei ail-blannu a’i ail-ffensio yn ddiweddar.
O edrych, y peth cyntaf sy’n taro ydy’r stympiau sy’n ail-dyfu a’r coed sy’n weddill yn codi o linell yr hen glawdd.
“’Da ni’n gadael rhai o’r mam-goed,” esboniodd Tudor. “Maen nhw’n dod â lles i’r bywyd gwyllt ac yn angori’r pridd; roedd rhaid cael gwared ar y lleill am fod bylchau mawr rhyngddyn nhw, felly doedden nhw ddim rhoi cysgod.”
Yn ddelfrydol, dylai clawdd da fod yn llydan ar y gwaelod ac yn ddigon tal i weithio fel rhwystr. Er mwyn cynnal gorchudd llydan a dwys, mae angen annog y coed i dyfu yn llorweddol yn hytrach nac i fyny. Pan nad ydy hynny’n bosib, bydd y coed yn cychwyn tyfu tuag at yr awyr. Os does ’na ddim digon o ganghennau yn is lawr i’w plethu, bydd bylchau yn ymddangos ac wedyn bydd angen cymynu ac ail-blannu.
Felly sut i ddechrau? Am fod prisiau popeth wedi codi, o borthiant i wrtaith, mae angen i lawer o bethau amaethyddol ddechrau efo grant, gan gynnwys cloddiau.
“Daeth y grant o Glastir,” meddai Tudor, “ac fe helpodd Coed Cymru efo’r gwaith papur. Rhaid cael trwydded cymynu hefyd, felly wnaethon ni gais ym mis Hydref a derbyn cadarnhad erbyn mis Chwefror. Roedd rhaid inni gymynu ac ail-blannu popeth erbyn diwedd mis Mawrth, felly roedd o’n her, ond ddaethon ni i ben.”
Gwaith tîm ydy plannu clawdd. Yn ogystal â phobl fel Gareth Davies o Goed Cymru wnaeth gynghori ar y cais, gweithiodd Carwyn Lloyd ar gymynu’r hen goed a phlannu’r coed newydd, ac fe gludodd Dylan Owen y pren.
“Yn oes fy nhad a fy nhaid, byddai’r cyfan wedi cael ei wneud efo llaw,” dywedodd Tudor wrthon ni, ac mae edrych nôl ar ddeunydd archif yn dangos fod sawl techneg ac arddull yn amrywio yn ôl lleoli’r canghennau, y pellter rhwng y polion, a prun ai byddai rhwymo yn cael ei ddefnyddio. Daeth y gwahaniaethau yn sgil patrymau tywydd lleol, y deunyddiau ar gael ac, wrth gwrs, cymeriad unigryw’r gweithwyr. Mae’r llun isod, er enghraifft, yn dangos rhywun yn plethu perth mewn arddull “stake and pleach” o Bontsenni a Chrai, 1972-1973.
Ar gyfer y clawdd newydd yn Fronwen, plannodd Carwyn tua mil o goed newydd a chafodd eu dewis ar sail beth oedd yno o’r blaen — cymysgedd yn bennaf o gollen, draenen ddu ac o fedwen.
Canlyniad y gwaith ydy stribed cadarn tair medr o led o lasbren a stympiau wedi’u hamddiffyn gan ddwy ffens, ac sy’n troelli lawr tua’r afon. Pam tair medr? “Defaid,” meddai Tudor. “Neu wartheg. Llai na hynny, ac fe fyddan nhw’n bwyta beth sydd newydd gael ei blannu.”
Ymhen tua phum mlynedd bydd y glasbren wedi ymsefydlu a’r clawdd unwaith eto’n tyfu’n drwchus, ac yn cynnig cysgod i ddefaid yn ystod ŵyna a’n ddelfrydol yn rhoi cartref i rai o’r llawer o famaliaid bach, trychfilod, ieir bach yr haf ac adar sy’n ymgartrefu mewn clawdd. Beth sy’n digwydd i’r coed gafodd ei gymynu? Mae sawl defnydd iddo, gan ddibynnu ar y math o bren, ei oedran a’i gyflwr. Mae’r posibiliadau yn cynyddu’n enfawr pan mae ’na bobl o gwmpas sydd â’r sgiliau, y taclau a’r lle i brosesu beth sydd ar gael. Dyma rôl tîm gwaith coed Tymhorau Dyfi. Mae Dylan, Theo a Brennig yn cyfuno eu gwybodaeth a’u harbenigedd er mwyn creu ystod o bethau gan gynnwys clwydi a dodrefn. Sut mae creu cadair allan o foncyff sych, er enghraifft? Dilynwch ein herthyglau nesaf i weld.